P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Animal Aid ar ôl casglu 12,706 o lofnodion

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y corff cyfrifol a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn peidio â phrydlesu tir cyhoeddus i weithgareddau saethu masnachol. Prif swyddogaeth gyfansoddiadol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn stiward amgylcheddol dros y tir y mae’n ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Ond mae prydlesu’r tir hwn ar gyfer gweithgareddau saethu yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Herfyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid. Mae arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu yn hwyluso gweithgarwch sy’n wrthun gan lawer o bobl Cymru: lladd anifeiliaid er mwyn ‘difyrrwch’.  Mae’r prydlesau hefyd yn golygu fod mynediad y cyhoedd i dir sy’n eiddo i bobl Cymru yn cael ei gyfyngu.        

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Sir Drefaldwyn

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru